Ymchwil i’r cynnig cymorth cyflogaeth

Am beth mae’r prosiect hwn?

■    Bydd yr ymchwil hon yn ein helpu ni i ddeall profiadau pobl mewn perthynas â'r cymorth maent wedi’i dderbyn gan Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner i’w helpu nhw i ddod o hyd i waith. Nod yr ymchwil yw gwella’r gwasanaethau hynny i’r holl bobl sy’n chwilio am swyddi.

■    Hoffwn ni glywed eich barn chi am y cymorth a gynigwyd i chi, ac a yw wedi’ch helpu chi wrth chwilio am gyflogaeth a sut y gellir ei wella. 

■    Mae ein tîm yn y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (IES) yn cynnal yr ymchwil hon ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym ni’n siarad ag amrywiaeth o bobl o bob rhan o Brydain Fawr i gasglu eu safbwyntiau ynghyd.

■    Caiff crynodeb o’n canfyddiadau ymchwil ei rannu gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Bydd y canfyddiadau hyn yn ddienw felly ni fydd modd gwybod pwy ydych chi. Ni fydd yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn cael ei rannu gydag unrhyw un yng Nghanolfan Byd Gwaith ac ni fydd yn effeithio ar eich buddion mewn unrhyw ffordd.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn penderfynu cymryd rhan?

Byddwn yn trefnu sgwrs breifat dros y ffôn rhyngoch chi a rhywun yn ein tîm ymchwil. Bydd yn cymryd tua 45 munud.

Bydd y sgwrs yn cynnwys:

■    Pa gymorth a gynigwyd i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner i’ch helpu chi i ddod o hyd i waith

■    Eich barn ar y cymorth hwn ac a oeddech chi’n teimlo y byddai o fudd i chi

■    Pa mor dda oedd y cymorth i chi’n ymarferol

■    Y budd a gawsoch chi o’r cymorth ac a oes modd gwella’r cymorth mewn unrhyw ffordd

Os byddwch chi’n dewis cymryd rhan, byddwn ni’n cynnig anrheg i ddiolch i chi am eich amser, sef taleb gwerth £30.

Beth yw fy hawliau os byddaf yn cymryd rhan?

■    Eich penderfyniad chi fydd cymryd rhan ai peidio. Ni fydd penderfynu cymryd rhan ai peidio yn effeithio ar eich ymwneud â’r DWP, Canolfan Byd Gwaith neu unrhyw asiantaeth lywodraethol arall, ac ni fydd unrhyw effaith ar y budd-daliadau gallech chi fod yn eu hawlio.

■    Mae gennych chi’r hawl i breifatrwydd. Nid ydym ni’n rhannu unrhyw beth a fyddai’n ei gwneud hi’n bosib eich adnabod (fel eich enw neu’ch cyfeiriad) gydag unrhyw un y tu allan i’r tîm ymchwil. Pan fyddwn ni’n ysgrifennu ein hadroddiad, efallai y byddwn ni’n defnyddio dyfyniadau gennych chi, ond byth eich enw.

■    Mae gennych chi’r hawl i benderfynu faint y byddwch chi’n ei rannu a pha mor gyflym y bydd pethau’n datblygu. Gallwch chi ddewis i beidio ag ateb cwestiynau sy’n teimlo’n ormod, neu gymryd seibiannau, neu roi’r gorau iddi os bydd hynny’n teimlo’n iawn i chi.

■    Mae gennych chi’r hawl i’ch data gael ei ddal yn ddiogel. Rydym ni’n sicrhau nad oes unrhyw ffordd y gellir eich adnabod drwy gymryd rhan, ac na chaiff eich preifatrwydd ei gyfaddawdu.

■    Mae gennych chi’n hawl i newid eich meddwl os na fyddwch chi am gymryd rhan mwyach. Gellir hyn fod cyn, yn ystod neu’n dilyn y sgwrs. Os ydych chi’n penderfynu’n hwyrach nad ydych chi am i ni ddefnyddio’r hyn a rannwyd gennych chi, e-bostiwch rosie.gloster@employment-studies.co.uk gan ofyn i ni ddileu eich data. Gellir gwneud hyn hyd at 2 wythnos ar ôl dyddiad y cyfweliad.

■    Mae gennych chi’r hawl i ofyn cwestiynau, neu gysylltu os oes gennych chi gŵyn, ar unrhyw adeg. Y cwbl mae angen ei wneud yw e-bostio: rosie.gloster@employment-studies.co.uk

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth byddaf yn ei rhannu, neu ‘fy nata’?

■    Os byddwch chi’n cymryd rhan, a chyda’ch cydsyniad, byddwn yn recordio ein sgwrs (sain) a chymryd nodiadau.

■    Byddwn ni dim ond yn cadw 1 ffeil gyda’ch enw a gwybodaeth adnabod eraill (fel eich rhif ffôn) fel y gallwn ni gysylltu â chi. Caiff hon ei dal yn ddiogel ar ein gweinydd ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw un arall y tu allan i’r tîm ymchwil. Caiff unrhyw beth arall rydych chi’n ei rannu ei labeli’n ddienw (er enghraifft, fel ‘Cyfranogwr 1’).

■    Byddwn yn llunio crynodeb o’r canfyddiadau yn eich ardal chi a rhannu hwn gyda’r DWP. Ni fyddant yn gwybod â phwy rydym ni wedi siarad â nhw ym mhob ardal, ac ni fyddwn ni’n cynnwys unrhyw beth sy’n ei gwneud hi’n bosib eich adnabod (fel eich enw neu’ch cyfeiriad).

■    I amddiffyn eich preifatrwydd, rydym ni’n dileu’r recordiad sain o’n sgwrs, y ffeil gyda’ch enw a manylion hunaniaeth eraill yn ogystal â’r wybodaeth arall rydych chi’n ei darparu i ni 6 mis ar ôl cwblhau’r prosiect (ar hyn o bryd, disgwylir y bydd hyn ym mis Medi 2023)

■    Mae gwybodaeth ychwanegol ar sut y caiff eich data ei ddefnyddio ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y prosiect.

 phwy gallaf siarad am yr ymchwil?

Os oes gennych chi gwestiynau am yr astudiaeth, neu os hoffech chi dynnu’r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi, cysylltwch â'r:

Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Rosie Gloster, Prif Gymrawd Ymchwil
rosie.gloster@employment-studies.co.uk

Ymchwil i’r farchnad lafur
LM.Research@DWP.gov.uk